Datblygu’r cwricwlwm yn effeithiol
Ciplun
Mae cwricwlwm cyfoethog yr ysgol yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ddysgu disgyblion. Mae’n darparu profiadau gwerthfawr iddynt sy’n datblygu eu gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth yn raddol. Un o’i gryfderau penodol yw’r ffordd y mae staff yn plethu creadigrwydd trwy’r dysgu ac yn cefnogi disgyblion i feddwl yn ddychmygus a gweithio’n fwyfwy annibynnol. Mae staff yn hynod fyfyriol ac yn adolygu cwricwlwm yr ysgol yn barhaus i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion pob disgybl.