Datblygu ymdeimlad o berthyn a’r ysgol o fewn ei chymuned   - Estyn

Datblygu ymdeimlad o berthyn a’r ysgol o fewn ei chymuned  

Arfer effeithiol

Olchfa School

Mae'r ddelwedd yn dangos murlun lliwgar ar ochr adeilad, yn darlunio dwylo amrywiol o wahanol arlliwiau croen wedi'u casglu o amgylch pêl sy'n tywynnu. O amgylch y dwylo mae elfennau artistig bywiog, gan gynnwys blodau, siapiau haniaethol, a llew. Mae'r olygfa wedi'i gosod yn yr awyr agored o dan awyr rhannol gymylog.

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Olchfa yn ysgol gyfun gymysg fawr 11-18, cyfrwng Saesneg sydd wedi’i lleoli mewn ardal faestrefol i’r gorllewin o Abertawe. Mae 1,907 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 466 yn y chweched dosbarth. Mae tua 12.02% o ddisgyblion rhwng Blynyddoedd 7 ac 11 yn cael prydau ysgol am ddim. Mae tua 40% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd pobl Ddu ac ethnig lleiafrifol, a siaredir dros 50 o ieithoedd, heblaw’r Saesneg a’r Gymraeg, yng nghartrefi disgyblion. Mae gan ychydig llai na 5% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac mae gan 9.2% ohonynt lefel o gaffael Saesneg sy’n llai na chymwys.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae hyrwyddo’i gwerthoedd craidd, sef Barod, Parchus a Diogel yn ganolog i arfer Olchfa. Mae gweledigaeth yr ysgol yn canolbwyntio ar syniad o ‘Gynefin’, gan ofyn y cwestiwn ‘Beth mae’n ei olygu i berthyn i gymuned Olchfa, byw yn Abertawe, ond gyda gwreiddiau ym mhob cwr o’r byd?’ Y nod oedd datblygu gweledigaeth ac ethos a oedd yn croesawu pob aelod o gymuned yr ysgol trwy strategaeth ymgysylltu eang.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Ym mlwyddyn gyntaf y strategaeth, sicrhawyd cytundeb cyffredin am beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o gymuned Ysgol Olchfa. Sefydlwyd hyn trwy gyfres o weithdai a grwpiau, yn cynnwys Bwrdd Cynghori’r ysgol sy’n cynrychioli disgyblion a theuluoedd, y Corff Llywodraethol a grwpiau staff amlddisgyblaethol. Bu cyfranogwyr yn ystyried cwestiynau fel ‘Beth ddylai ei olygu i fod yn rhan o gymuned Olchfa?’ a ‘Pa bethau ddylai ein huno ni?’ Cwtogwyd yr adborth yn ddeg gair a datganiadau diffiniol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ffurfio sail gweledigaeth newydd. Mae ‘Cynefin’ Olchfa yn dathlu: plant, Cymreictod, llawenydd, creadigrwydd, perthyn, arweinyddiaeth, positifrwydd, gofal, parch a llwyddiant. Ei nod yw gweledigaeth i bawb, sy’n cynnwys pawb. Rhoddodd arweinwyr yr ysgol flaenoriaeth i arweinyddiaeth hynod weladwy o fewn a’r tu hwnt i giatiau’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys perthnasoedd gwaith agos ag ysgolion cynradd partner, trwy fentrau strategol fel ‘Cynllunio Gyda’n Gilydd, Addysgu Gyda’n Gilydd’ ond hefyd trwy bresenoldeb gweladwy’r pennaeth mewn digwyddiadau partneriaid cynradd. Mae ymgysylltu â digwyddiadau cymunedol a gydag asiantaethau eraill hefyd yn weladwy ac yn cael ei ddathlu.

Roedd blwyddyn dau yn cynnwys ymgorffori’r weledigaeth mewn dwy ffordd allweddol. Un ohonynt oedd atgyfnerthu’r weledigaeth yn rheolaidd trwy hyfforddiant staff, digwyddiadau cyhoeddus a chyhoeddiadau’r ysgol. Un arall oedd datblygu deunyddiau hyrwyddo. Yn sgil cystadleuaeth ddylunio i ddisgyblion, cynhyrchwyd lefelau uchel o ymgysylltu a syniadau. Cymerodd yr enillwyr ran mewn gweithdai gydag arlunydd lleol (a chyn-ddisgybl), yn ymgorffori’r deg gair mewn deunyddiau gweledol trawiadol sy’n cael eu harddangos ar draws y safle. Darn canolog y gwaith hwn oedd creu murlun wal mewn partneriaeth rhwng yr arlunydd a’r disgyblion, yn adlewyrchu ‘Cynefin’ Olchfa, ac yn helpu ei ddyfnhau.

Mae ymrwymiad gan staff, disgyblion a theuluoedd yn sail i’r broses a’r weledigaeth, ac ymrwymiad dwfn i adlewyrchu eu ‘Cynefin’ ym mhopeth a wnânt, gan bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol, beth bynnag yw eu rôl. Mae gan grwpiau llais y disgybl rôl weithredol mewn hyrwyddo’r ymdeimlad hwn o berthyn:

  • Mae’r grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi arwain ar hyrwyddo a dathlu’r ystod amrywiol o ddiwylliannau o fewn cymuned yr ysgol trwy drefnu wythnosau diwylliant hynod lwyddiannus.
  • Mae’r ‘Ffair Les’ flynyddol, a drefnir gan grŵp llais y disgybl iechyd a lles emosiynol, yn ddigwyddiad gwerthfawr gan ei fod yn helpu codi ymwybyddiaeth am gymorth sydd ar gael gan elusennau ac asiantaethau yn y gymuned leol.
  • Mae mentoriaid CHAT Blwyddyn 10 (cyfrinachedd (confidentiality), help (help), cyngor (advice) ac ymddiriedaeth (trust)) yn cynnig cymorth ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 pan maent yn ymuno â’r ysgol, i sicrhau eu bod yn teimlo’u bod yn cael eu hintegreiddio’n llawn yng nghymuned Ysgol Olchfa cyn gynted ag y bo modd.
  • I ymateb i’r twf cyflym yn y chweched dosbarth, mae swyddogion wedi sefydlu dydd Mercher lles i hyrwyddo ymdeimlad o gymuned.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r weledigaeth drosfwaol ar gyfer yr ysgol wedi cael effaith gadarnhaol ar feysydd allweddol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae presenoldeb wedi cynyddu, mae deilliannau arholiadau yn cyd-fynd yn fras â lefelau cyn Covid, ac me gwaharddiadau wedi disgyn. Mae’r nifer sy’n cofrestru yn y chweched dosbarth ar ei lefel uchaf yn hanesyddol. Mae arweinwyr yn credu bod ‘Cynefin’ Olchfa yn gorwedd yn ei diwylliant, sy’n wresog, yn flaengar ac yn gynhwysol. Mae perthnasoedd ar gyfer dysgu yn gryf. Mae adborth rhieni yn dangos lefelau uchel o foddhad ag ymgysylltu a gwelededd. Mae’r ysgol yn teimlo bod pawb yn cael eu huno y tu ôl i weledigaeth i bawb sy’n rhoi Ysgol Olchfa yng nghanol ei chymuned.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Ysgol Olchfa yn cynnal ymweliadau gan staff o ysgolion eraill yn rheolaidd, ac mae wedi ymrwymo i bartneriaeth traws system a phŵer gwelliant ysgolion rhwng cymheiriaid.   


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn