Datblygu partneriaethau effeithiol â rhieni i gefnogi dysgu a lles disgyblion - Estyn

Datblygu partneriaethau effeithiol â rhieni i gefnogi dysgu a lles disgyblion

Ciplun

Mae perthnasoedd gwaith yr ysgol a’r cymorth y mae’n ei ddarparu i deuluoedd yn gryfder. Mae’r ysgol yn darparu man cymunedol croesawgar lle gall rhieni fynychu cyfarfodydd a gweithdai i’w helpu i gefnogi dysgu a lles eu plant. Anogir rhieni i gyfrannu at fywyd yr ysgol trwy’r caffi cymunedol a Bocs Bwyd Mawr. Mae’r cymorth hwn i deuluoedd, ynghyd â chydweithio effeithiol, yn cael effaith gadarnhaol ar agweddau disgyblion at ddysgu, ac ar les a chynnydd y rhan fwyaf o ddisgyblion.