Datblygu medrau llythrennedd disgyblion - Estyn

Datblygu medrau llythrennedd disgyblion

Ciplun

Un o gryfderau’r ysgol yw’r graddau trawiadol y mae disgyblion yn datblygu eu medrau llythrennedd. O oedran cynnar, mae bron pob disgybl yn gwneud cynnydd cyflym, gan ddatblygu hyder cynnar mewn darllen a siarad yn arbennig. Wrth iddynt symud drwy’r ysgol, maent yn datblygu geirfa eang, ac yn ei defnyddio’n hynod effeithiol yn eu gwaith ysgrifenedig a llafar. Wrth ymateb i destunau, maent yn dod i gasgliadau am ystyr yn rhwydd ac yn dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o ddibenion a manteision darllen yn dda. At ei gilydd, mae disgyblion yn cymhwyso eu medrau llythrennedd yn llwyddiannus mewn ystod eang o bynciau a chyd-destunau ar draws pob maes o’r cwricwlwm.