Datblygu medrau llythrennedd disgyblion - Estyn

Datblygu medrau llythrennedd disgyblion

Ciplun

Un o gryfderau’r ysgol yw’r graddau trawiadol y mae disgyblion yn datblygu eu medrau llythrennedd. O oedran cynnar, mae pob disgybl yn gwneud cynnydd cyflym, gan ddatblygu hyder cynnar mewn darllen a siarad yn benodol. Wrth iddynt symud drwy’r ysgol, maent yn datblygu geirfa helaeth y maent yn ei defnyddio’n hynod effeithiol yn eu gwaith ysgrifennu a llafaredd. Wrth ystyried testunau, maent yn dod i gasgliadau am eu hystyr yn rhwydd ac mae ganddynt ddealltwriaeth gynhwysfawr o ddibenion a manteision darllen yn dda. At ei gilydd, mae disgyblion yn cymhwyso eu medrau llythrennedd yn llwyddiannus mewn ystod eang o bynciau a chyd-destunau, ar draws pob maes o’r cwricwlwm.