Datblygu medrau llafar disgyblion
Ciplun
Mae ethos gadarn o ddatblygu medrau llafar Cymraeg y disgyblion yn amlwg drwy’r ysgol, yn enwedig y gefnogaeth ar gyfer disgyblion sy’n cael eu hadnabod fel newydd ddyfodwyr i’r Gymraeg. Ar fynediad i’r ysgol, ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg. Mae staff y disgyblion ieuengaf yn cefnogi’r disgyblion yn fedrus i gaffael y Gymraeg, er enghraifft wrth gyflwyno a chyfoethogi geirfa ac arddel patrymau iaith cywir trwy ganu hwiangerddi a rhigymau yn gyson. Mae’r staff cyfan yn trochi’r disgyblion yn yr iaith yn barhaus, gyda’r disgyblion hŷn yn adeiladu ar eu medrau yn dda. Trwy hyn, maent yn cyfathrebu’n hyderus yn y ddwy iaith gan drafod amrywiaeth o themâu yn ddeallus ac aeddfed gyda staff a chyfoedion.