Datblygu medrau disgyblion yn y celfyddydau mynegiannol - Estyn

Datblygu medrau disgyblion yn y celfyddydau mynegiannol

Ciplun

Mae darpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn y celfyddydau mynegiannol yn gryfder. Ar draws yr ysgol, mae cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddatblygu eu medrau mewn cyd-destunau creadigol. Mae disgyblion yn cael profiad o amrywiaeth eang o gyfryngau ac yn eu defnyddio i archwilio eu dysgu ac i ddatblygu medrau i lefel uchel. Mae llawer o ddisgyblion hŷn yn siarad yn glir am y cynnydd y maent yn ei wneud wrth ddatblygu eu medrau yn y celfyddydau mynegiannol.