Datblygu medrau cyfannol yn yr amgylchedd awyr agored - Estyn

Datblygu medrau cyfannol yn yr amgylchedd awyr agored

Ciplun

Mae disgyblion a staff wedi cydweithio’n agos i gynllunio a datblygu amgylchedd awyr agored ysgogol a deniadol yr ysgol. Mae disgyblion yn mireinio medrau corfforol gwerthfawr wrth iddynt ddringo, palu a chwilota yn yr ardaloedd coedwig a gardd, gan gymryd rhan mewn ystod eang o brofiadau dysgu cyfoethog sy’n cefnogi cynnydd yn eu medrau llythrennedd, rhifedd a chreadigol yn effeithiol. Mae disgyblion yn frwdfrydig am y cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored a gânt ac yn gwerthfawrogi’r effaith gadarnhaol y mae’r ardaloedd hyn yn ei chael ar eu lles ysbrydol a meddyliol pan fydd angen amser tawel arnynt i fyfyrio.