Datblygu medrau creadigol disgyblion mewn cyd-destun lleol. - Estyn

Datblygu medrau creadigol disgyblion mewn cyd-destun lleol.

Ciplun

Mae athrawon yn cynllunio’n fwriadus i ddarparu cyfleoedd cyfoethog ac estynedig i ddisgyblion ddatblygu eu medrau creadigol yn llwyddiannus ar draws yr ysgol. Mae’r disgyblion ieuengaf yn cydweithio i gynllunio a chreu darluniau unigryw gan ddefnyddio deunydd ailgylchu sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd. Mae disgyblion ar frig yr ysgol yn creu modelau 3D trawiadol a murlun blynyddol sy’n adlewyrchu eu profiadau a’u hatgofion o’u taith drwy’r ysgol. Mae’r gwaith yn hynod lwyddiannus wrth ddatblygu ystod eang o fedrau’r disgyblion, gan gynnwys medrau llythrennedd, rhifedd a digidol yn ogystal â meithrin eu dealltwriaeth o ddinasyddiaeth fyd eang.