Datblygu medrau annibynnol disgyblion
Ciplun
O oedran cynnar, mae staff yn annog pob disgybl i fod yn hynod annibynnol yn eu dysgu. Maent yn trefnu’r amgylcheddau’n ofalus i alluogi disgyblion i ddefnyddio adnoddau defnyddiol heb gymorth ac yn rhannu strategaethau defnyddiol y gall disgyblion eu defnyddio os ydynt yn cael rhywbeth yn anodd. Mae staff yn ystyried diddordebau disgyblion ac yn eu hannog i ddatblygu eu syniadau unigol a’u creadigrwydd. Maent yn annog disgyblion yn rheolaidd i fyfyrio ar eu gwaith a helpu ei gilydd pan fo angen. O ganlyniad, ar draws yr ysgol, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos lefelau uchel o annibyniaeth ac ymgysylltiad yn eu dysgu.