Datblygu dysgwyr annibynnol - Estyn

Datblygu dysgwyr annibynnol

Ciplun

Ar draws yr ysgol, mae bron pob un disgybl yn datblygu’n dda fel dysgwyr annibynnol. Maent yn cydweithio’n bwrpasol, yn cymryd perchnogaeth o’u dysgu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u medrau mewn ystod o gyd-destunau. Mae’r disgyblion ieuengaf yn gyfforddus wrth archwilio eu hamgylchedd yn rhydd. Maent yn rhannu ac yn esbonio eu dysgu’n frwdfrydig ac yn mynegi’n glir yr hyn y gallant ac na allant ei wneud. Maent yn cofio eu dysgu dros amser ac yn ei gysylltu â’u profiadau eu hunain. Mae disgyblion hŷn yn dylanwadu’n rheolaidd ar sut a beth maent yn ei ddysgu ac yn dangos lefelau uchel o annibyniaeth. Mae’r disgyblion hynaf yn asesu ac yn trafod eu dysgu’n hyderus ac yn ymateb yn ystyriol i adborth beirniadol.