Datblygu disgyblion iau yn ddysgwyr annibynnol hynod effeithiol - Estyn

Datblygu disgyblion iau yn ddysgwyr annibynnol hynod effeithiol

Ciplun

Mae athrawon a chynorthwywyr addysgu yn defnyddio ystod o ddulliau ystyriol, gan gynnwys holi greddfol, arsylwi a rhyngweithio craff, i gefnogi dysgu disgyblion iau. O oedran cynnar, mae disgyblion yn esbonio o’u gwirfodd beth maent yn ei ddysgu a sut maent yn dysgu, ac yn nodi cysylltiadau perthnasol â’u bywydau y tu allan i’r ysgol. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion iau yn datblygu’n ddysgwyr annibynnol effeithiol ac yn aml yn arwain eu dysgu a’u chwarae eu hunain, gan gynllunio gweithgareddau, trefnu eu hunain a phrofi eu damcaniaethau. Er enghraifft, mae disgyblion yn y dosbarth Derbyn yn defnyddio sialc ac offer pren i gynllunio a chynnal ymchwiliad i weld pwy yw’r cryfaf, trwy arsylwi pwy sy’n torri’r sialc yn ei hanner gyntaf.