Datblygu dealltwriaeth disgyblion o berthnasoedd i greu amgylchedd cynhwysol a chefnogi lles
Mae disgyblion, staff a rhieni yn cydweithio i greu amgylchedd lle mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u hannog i ffynnu. Adlewyrchir y perthnasoedd cadarnhaol sy’n amlwg ar draws yr ysgol yn ymddygiad da disgyblion, eu dealltwriaeth o arferion dyddiol a’r ffordd dawel y maent yn symud o amgylch yr ysgol. Mae hyn yn arbennig o amlwg yn y ffordd y mae disgyblion yn datblygu cyfeillgarwch cryf, yn cydweithredu ac yn cefnogi ei gilydd. Mae bron pob disgybl yn ymfalchïo yn eu hysgol, gan ddangos cwrteisi tuag at staff ac at ei gilydd. Maent yn awyddus i rannu eu barn a’u llwyddiannau ag ymwelwyr, sy’n adlewyrchu ymdeimlad cryf o berthyn ac ymgysylltiad. Mae disgyblion yn datblygu medrau gwerthfawr trwy grwpiau arwain, lle mae disgyblion hŷn yn arwain disgyblion iau wrth iddynt fynegi eu syniadau a chofnodi eu meddyliau, gan feithrin diwylliant o barch a chyfrifoldeb ar y cyd. Mae’r ysbryd hwn o gydweithio, cynhwysiant a charedigrwydd yn cael ei feithrin ymhellach ar yr iard chwarae, lle mae cyfeillion yr ysgol yn cynnig cymorth i ddisgyblion eraill a allai fod yn teimlo’n unig.