Datblygu cysylltiadau effeithiol â theuluoedd a’r gymuned - Estyn

Datblygu cysylltiadau effeithiol â theuluoedd a’r gymuned

Ciplun

Mae Ysgol y Gogarth yn ysgol effeithiol iawn sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Mae swyddog ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned (FaCE) yr ysgol yn gweithio’n effeithiol iawn mewn partneriaeth â theuluoedd, rhieni a gofalwyr a disgyblion. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo teuluoedd drwy eu cyfeirio at sefydliadau a gwasanaethau a allai fod o gymorth, neu drwy ddarparu gweithdai i aelodau o’r teulu eu mynychu. Mae’r swyddog yn cyfarfod yn rheolaidd â theuluoedd i drafod materion sy’n codi ac yn cynorthwyo rhieni a gofalwyr i weithio gyda’r ysgol i fynd i’r afael â nhw. Mae hyn yn cynnwys achosion lle ceir heriau o ran presenoldeb yn yr ysgol, gan gynorthwyo rhieni’n unigol a chanolbwyntio ar nodi a goresgyn y rhwystrau rhag mynychu. Mae’r gwaith hwn yn cael effaith gadarnhaol ar gynyddu cyfranogiad rhieni a gofalwyr yn addysg eu plentyn, yn yr ysgol ac yn y cartref. Mae’r pwyllgor eco yn cyfarfod bob wythnos ac yn cynnwys rhieni sy’n gwirfoddoli ac yn gweithio ochr yn ochr â’u plentyn a’r swyddog ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned. Mae hyn yn cryfhau’r berthynas rhwng yr ysgol a’r rhieni sy’n gwirfoddoli. Ceir rhagor o wybodaeth am waith Ysgol y Gogarth yn astudiaeth achos Llywodraeth Cymru. https://www.llyw.cymru/astudiaeth-achos-fideo-am-ysgol-fro-ysgol-y-gogarth-conwy