Datblygu cwricwlwm sydd wedi ei wreiddio’n lleol - Estyn

Datblygu cwricwlwm sydd wedi ei wreiddio’n lleol

Ciplun

Fel rhan o weithgareddau clwstwr, cynhyrchodd y disgyblion gyflwyniadau digidol effeithiol yn disgrifio Ysgol Gymuned Rhosybol a mynegi eu teimladau am eu hardal leol. Maent yn cyfeirio at ddaearyddiaeth Môn ac at fywyd cymdeithasol a diwylliannol yr ynys. Paratôdd y disgyblion hŷn lythyrau i’w hanfon at wleidyddion lleol yn trafod eu teimladau am y cynlluniau i adeiladu trydydd pont dros y Fenai. Fel rhan o’u gwaith thema, daethant i ddysgu am sut mae’r diciau mewn gwartheg yn effeithio ffermydd Môn. O ganlyniad, mae disgyblion yn gweld budd i’w dysgu wrth iddynt ddwysáu eu dealltwriaeth am fywyd a gwaith trigolion yr Ynys.