Datblygu chwarae sgematig plant trwy arsylwadau gofalus a defnydd pwrpasol o’r amgylchedd.
Quick links:
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae lleoliad cyn-ysgol Aberriw wedi’i leoli ym mhentref Aberriw ar dir safle Ysgol Gynradd Gymunedol Aberriw. Mae’n lleoliad blynyddoedd cynnar a reolir gan bwyllgor sy’n cynnig darpariaeth addysg, gofal plant a Dechrau’n Deg. Mae’r lleoliad cyn-ysgol wedi’i gofrestru i ofalu am hyd at 24 o blant ym mhob sesiwn, rhwng dwy a phedair oed, ac yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00-3.00 yn ystod y tymor yn unig.
Mae’r lleoliad yn adnabyddus am ei amgylcheddau awyr agored cyffrous a deniadol. Mae’r rhain wedi cael eu datblygu’n ystyriol dros gyfnod, a diddordebau ac anghenion datblygiadol plant yw’r prif sbardun ar gyfer newid. Mae’r lleoliad yn darparu amgylchedd lle mae plant yn teimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod ganddynt y rhyddid i archwilio, gwneud dewisiadau a dod yn ddysgwyr hyderus, creadigol ac annibynnol.
Mae ymarferwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r uchelgais hon. Mae pob ymarferwr yn annog plant i wneud dewisiadau a chymryd cyfrifoldeb am eu dysgu trwy ddilyn arweiniad plentyn ac ychwanegu adegau addysgadwy at eu chwarae. Caiff y lleoliad ei arwain gan reolwr lleoliad ymroddgar a myfyriol, arweinwyr profiadol, ymarferwyr brwdfrydig ac unigolyn cyfrifol ymrwymedig a gefnogir gan bwyllgor gwirfoddol. Gyda’i gilydd, maent yn dod â chyfoeth o wybodaeth, gofal ac angerdd i greu amgylchedd gwresog i blant ei archwilio’n rhydd.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Y weledigaeth ar gyfer y lleoliad yw i bob plentyn ddod yn ddysgwyr annibynnol creadigol hyderus. Yn 2022, mynychodd arweinwyr hyfforddiant Awdurdod Lleol ar sgemâu.
Amlygodd yr hyfforddiant bwysigrwydd darparu cyfleoedd i blant gymryd rhan mewn chwarae sgematig. Mae cefnogi chwarae sgematig wedi dod yn rhan allweddol o’u hymagwedd at weithredu eu gweledigaeth i ddarparu’r profiadau datblygiadol gorau posibl ar gyfer pob un o’r plant.
Mae sgemâu yn batrymau o ymddygiadau ailadroddus y mae plant yn eu defnyddio i drefnu eu profiadau a datblygu dealltwriaeth o’u hamgylchedd. Trwy’r patrymau hyn, mae plant yn gwneud synnwyr o wybodaeth newydd tra’n adeiladu ar eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth bresennol, hefyd. Mae ymarferwyr yn sylwi bod plant yn aml yn canolbwyntio ar faes diddordeb penodol ac yn ailadrodd camau gweithredu i archwilio a datblygu eu dealltwriaeth.
Trwy hyfforddiant, mae oedolion yn gwybod bod yr ailadrodd hwn yn helpu plant i brofi achos ac effaith, datblygu ymwybyddiaeth ofodol a medrau datrys problemau. Trwy arsylwi’r patrymau hyn yn ofalus trwy gydol chwarae plant, mae ymarferwyr yn cynllunio’r amgylchedd galluogi a’r profiadau a gynigir, gan gefnogi dysgu sy’n cyd-fynd â sgema plentyn.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Yn lleoliad cyn-ysgol Aberriw, mae oedolion wedi croesawu’r cwricwlwm nas cynhelir yn llawn ac yn rhoi pwyslais cryf ar ddiwallu anghenion pob plentyn. Cyflawnir hyn trwy amgylchedd dysgu wedi’i gynllunio’n ofalus, sy’n darparu profiadau difyr gydag oedolyn sy’n galluogi dysgu.
Mae arweinwyr yn deall bod gan oedolion sy’n galluogi dysgu rôl bwysig, felly mae’n hanfodol trafod a myfyrio fel tîm. Mae’r arweinydd cyn-ysgol yn treulio amser yn ymchwilio i sgemâu ac yn rhannu gwybodaeth gyda’r tîm yn gyson trwy gyfarfodydd rheolaidd a chyfleoedd datblygiad proffesiynol. Mae oedolion yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o sgemâu a chwarae sgematig. Mae hyn yn sicrhau bod pob oedolyn yn arsylwi plant yn effeithiol ac yn nodi gwybodaeth allweddol am eu chwarae a’u dysgu. Mae oedolion yn cydnabod y mathau o ymddygiadau a ddangosir gan blant ac yn deall beth allai plant fod yn eu harchwilio trwy’r ymddygiadau hyn.
Er enghraifft, efallai bod plentyn sy’n mwynhau troelli olwynion, reidio beiciau, troi rhubanau neu droi tapiau yn archwilio sgema cylchdro. Trwy’r gweithredoedd hyn, gallai’r plentyn fod yn datblygu ei ddealltwriaeth o symudiad, siâp ac ymwybyddiaeth ofodol.
Mae pob oedolyn yn arsylwi plant yn agos ac yn nodi sgemâu sy’n dod i’r amlwg. Wedyn, caiff plant eu grwpio yn ôl diddordebau sgematig tebyg. Mae’r wybodaeth hon yn ffurfio sail y cynllunio bob pythefnos. Mae cynllunio’n canolbwyntio ar wella’r amgylchedd dysgu ag adnoddau dilys priodol a chynllunio profiadau difyr sy’n cefnogi’r sgema a nodwyd. Er enghraifft, pan mae oedolion yn nodi bod grŵp o blant yn archwilio sgema cylchdro, maent yn gwella’r amgylchedd ag adnoddau fel chwisgiau, rhubanau, gwlân a driliau cylchdro, peli campfa a throellwyr. Mae oedolion hefyd yn cynllunio profiadau difyr penodol ar draws y pythefnos i ymestyn y dysgu hwn, fel gemau parasiwt, gweithgareddau pobi sy’n cynnwys cymysgu, chwisgo a rholio, ac archwilio paent gan ddefnyddio troellwyr salad a rholeri.
Caiff yr adnoddau a’r profiadau ychwanegol hyn eu hymgorffori’n gyflym yn narpariaeth chwarae bob dydd y plant, gan eu galluogi i archwilio ac ailadrodd eu diddordebau mewn ffordd ystyrlon a chynaledig. Yn ystod y pythefnos canlynol, mae oedolion yn canolbwyntio ar grŵp arall o blant sydd â diddordeb sgematig gwahanol. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod cynllunio yn ymatebol, yn canolbwyntio ar y plentyn ac wedi’i wreiddio mewn arsylwi gofalus, gan alluogi ymarferwyr i gefnogi chwilfrydedd naturiol plant a dyfnhau eu dealltwriaeth.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae’r newid hwn mewn dull i ganolbwyntio ar gyfleoedd chwarae sgematig yn cael effaith sylweddol ar y ddarpariaeth ar gyfer plant.
Mae ymarferwyr yn cydnabod bod lefelau sylw a chanolbwyntio plant yn cynyddu pan maent wedi ymddiddori ac wedi ymgysylltu’n ddwfn â chwarae a dysgu. Mae oedolion yn cynllunio’r amgylchedd yn hyderus ar sail anghenion a diddordebau plant. Mae hyn yn sicrhau bod pob plentyn yn gallu dysgu mewn ffordd sy’n gweddu i’w arddull unigol. Mae ymarferwyr yn parhau i wneud newidiadau ystyriol, gan ychwanegu adnoddau dilys at ardaloedd craidd y ddarpariaeth i gefnogi diddordebau sgematig plant yn well.
Mae’r dull sgematig hwn bellach yn cael ei ymgorffori yn ymarferol, gan helpu magu hyder plant a dyfnhau eu dealltwriaeth. O ganlyniad, gall pob un o’r plant ddatblygu eu dysgu mewn ffyrdd sy’n ystyrlon iddyn nhw. Maent yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen, sy’n annog chwilfrydedd a chreadigrwydd o fewn eu dysgu. Daw plant yn archwilwyr hyderus o’u hamgylchedd.
Trwy gydnabod a dilyn diddordebau sgematig plant a gwerthfawrogi eu chwarae, mae lleoliad cyn-ysgol Aberriw yn sicrhau bod pob plentyn yn datblygu ymdeimlad cryf o berthyn a hunanwerth. O ganlyniad, mae lles plant yn eithriadol o uchel. Mae’r dull hwn yn sail i weledigaeth y lleoliad i gynorthwyo plant i ddod yn ddysgwyr annibynnol creadigol hyderus.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r lleoliad yn croesawu lleoliadau blynyddoedd cynnar a gweithwyr addysg proffesiynol eraill i arsylwi plant a rhannu arfer dda ar sut maent yn gweithredu diddordebau sgematig, a sut caiff hyn ei ymgorffori mewn cynllunio ac arfer o ddydd i ddydd.