Datblygu arweinyddiaeth gref, gydlynol ac effeithiol - Estyn

Datblygu arweinyddiaeth gref, gydlynol ac effeithiol

Ciplun

Mae arweinyddiaeth ddosbarthedig gref a llwyddiannus yn agwedd drawiadol ar waith yr ysgol. Mae arweinwyr yn ymdrechu’n bwrpasol i sicrhau bod medrau a gwybodaeth disgyblion a staff yn datblygu’n barhaus, er mwyn eu cefnogi i gyd i gyflawni eu potensial. Mae gan arweinwyr ar bob lefel wybodaeth drylwyr a chywir am gryfderau’r ysgol a’i meysydd i’w datblygu, ac maent yn defnyddio’r wybodaeth hon yn effeithiol i sbarduno a chynnal gwelliannau mewn addysgu a dysgu, fel y gwaith llwyddiannus diweddar i wella darllen.