Datblygiad llafaredd a iaith o ansawdd uchel
Ciplun
O’r adeg y maent yn dechrau yn yr ysgol yn y dosbarthiadau ieuengaf, mae disgyblion yn elwa ar ffocws hynod effeithiol ar fedrau iaith a chyfathrebu. Ar draws yr ysgol, mae staff yn cyflwyno ystod eang o eirfa i ddisgyblion, sy’n helpu’r rhan fwyaf ohonynt i ddefnyddio iaith ddisgrifiadol a thechnegol yn hynod effeithiol. Mae staff yn fedrus wrth helpu disgyblion i ddeall ystyr yr iaith y maent yn ei dysgu. Mae’r ddarpariaeth hynod effeithiol hon yn treiddio drwy’r cwricwlwm ac yn sicrhau bod disgyblion yn datblygu’r gallu a’r hyder i ddefnyddio geirfa uchelgeisiol a pherthnasol ym mron pob agwedd ar eu dysgu.