Darparu ar gyfer y disgybl cyfan - Estyn

Darparu ar gyfer y disgybl cyfan

Arfer effeithiol

Ysgol Y Moelwyn

Disgyblion ac athro mewn trafodaeth ystafell ddosbarth o amgylch bwrdd.

Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr

Mae Ysgol y Moelwyn yn ysgol uwchradd ddwyieithog 11-16 sydd wedi’i lleoli mewn ardal naturiol Gymreig ym Mlaenau Ffestiniog. Mae 355 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 81.7% yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Mae canran yr ysgol sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim yn 16.1% ac mae 26.8% o’r disgyblion ar gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Blaenoriaeth Ysgol y Moelwyn yw sicrhau amgylchedd cynhaliol lle mae pob disgybl yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei werthfawrogi ac yn cael y gefnogaeth sydd ei angen i wneud cynnydd. Mae’r ysgol wedi ymrwymo i gynnig darpariaeth gynhwysfawr a chynhwysol sy’n galluogi pob unigolyn i ddatblygu’n ddysgwr llwyddiannus ac yn berson hyderus, cyfrifol a chydwybodol.

Yn greiddiol i’r weledigaeth hon mae egwyddorion ‘Ffordd Ffestiniog’, sy’n hyrwyddo bod cyfrifoldeb  ar bob un, yn ddisgyblion, staff a rhieni i gydweithio fel un tîm gan ddangos parch tuag at ei gilydd gan greu sylfaen i’r dyfodol mewn awyrgylch gartrefol. Mae’r weledigaeth hon yn  llywio pob agwedd o fywyd yr ysgol. Drwy strategaeth ‘Llwybrau Ffordd Ffestiniog’, mae’r ysgol yn adnabod disgyblion sydd angen cefnogaeth llesiant, cynhwysiad ac addysgol i gyrraedd ‘Ffordd Ffestiniog’. Mae’r ysgol yn darparu cefnogaeth i feithrin datblygiad academaidd, cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion, a’u galluogi i wireddu eu potensial a ffynnu drwy gydol eu taith addysgol a thu hwnt.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r strategaeth o gefnogi a datblygu’r disgybl cyflawn yn dechrau yn ystod y cyfnod pontio o Flwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd, pan fydd disgyblion yn mynychu’r ysgol un diwrnod yr wythnos yn ystod tymor yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, maent yn dilyn amserlen ac yn cymryd rhan mewn sesiynau penodol sy’n eu cyflwyno i egwyddorion ‘Ffordd Ffestiniog’ o’r cychwyn cyntaf.

Mae strategaeth ‘Llwybrau Ffordd Ffestiniog’ yn galluogi’r ysgol i adnabod a chefnogi disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol o ran llesiant, cynhwysiant neu ddysgu. Er mwyn darparu’r gefnogaeth hon yn effeithiol, mae tair ystafell bwrpasol wedi’u sefydlu, pob un â ffocws penodol ac enw sy’n adlewyrchu treftadaeth ac egwyddorion lleol.

  • Stwlan – canolfan ar gyfer cefnogaeth llesiant ac iechyd meddwl. Mae’r enw’n cyfeirio at Argae Stwlan ac yn symbol o gadernid, sefydlogrwydd a chynhaliaeth.
  • Nyth – darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi’i henwi ar ôl Nyth y Gigfran. Mae’r ddarpariaeth yn cynnig amgylchedd diogel a chefnogol lle gall disgyblion feithrin hyder, datblygu medrau a chynyddu eu hannibyniaeth er mwyn cyflawni eu potensial.
  • Cwt y Bugail – darpariaeth addysgol i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 4 sydd angen cefnogaeth ychwanegol i sicrhau eu bod yn ennill cymwysterau priodol. Er bod yr enw’n deillio o safle chwarel leol, mae hefyd yn adlewyrchu rôl y bugail wrth arwain, gwarchod a gofalu am ei braidd, gan adlewyrchu ethos gynhaliol y ddarpariaeth.

Mae’r adnabyddiaeth o anghenion y disgyblion yn fanwl ac yn cynnwys dealltwriaeth o’u  cryfderau a’u dyheadau. Mae hyn yn sicrhau cynllunio pwrpasol ac addasiadau priodol a strwythuredig ar hyd eu taith addysgol megis cymwysterau galwedigaethol a gwaith gwirfoddol.

Ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11, caiff addasiadau cwricwlaidd eu cynllunio’n ofalus yn ôl yr angen, ynghyd â chyfleoedd profiad gwaith wedi’u teilwra i’w hanghenion unigol. Mae’r ddarpariaeth hon yn cefnogi disgyblion i feithrin hyder, datblygu sgiliau bywyd a chyflogadwyedd allweddol, a’u paratoi’n effeithiol ar gyfer y cam nesaf yn eu haddysg, eu hyfforddiant neu  gyflogaeth.

Yn ystod Blwyddyn 10, mae disgyblion yn cwblhau dau gyfnod o brofiad gwaith, gan roi cyfle i rai disgyblion barhau gyda phrofiad gwaith estynedig ym Mlwyddyn 11.

Mae ymgysylltu â’r gymuned yn rhan annatod o’r weledigaeth ac yn elfen bwysig o hyrwyddo gwerthoedd ‘Ffordd Ffestiniog’. Mae’r ‘Ystafell Gymunedol’ yn ganolbwynt i nifer o weithgareddau sy’n cryfhau’r cysylltiad rhwng yr ysgol a’r gymuned leol. Trwy wahodd aelodau o’r gymuned i de prynhawn, plant o’r feithrinfa leol a Chymdeithas y Dysgwyr, a darparu cinio’r henoed yn fisol, mae disgyblion yn datblygu medrau cyfathrebu, cydweithio a gwasanaeth cymunedol mewn cyd-destun ystyrlon ac ymarferol. O fewn yr ystafell gymunedol mae’r caffi, sy’n darparu brecwast ac yn cynnig hafan ddiogel i ddysgwyr bregus yn ystod amseroedd egwyl a chinio.

Mae llais y disgybl yn greiddiol i ddiwylliant Ysgol y Moelwyn, gan sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfle rheolaidd i fynegi eu barn a chyfrannu at ddatblygiad yr ysgol. Caiff hyn ei hwyluso drwy sesiynau wythnosol ‘Llais y Dysgwr’ yn ystod cyfnod cofrestru, lle mae disgyblion yn trafod materion sy’n bwysig iddynt ac yn rhannu syniadau ar gyfer gwella. Mae’r Uwch Dîm Arwain yn ymateb i’r materion a godir yn y sesiynau hyn, yn ogystal â’r trafodaethau sy’n deillio o waith y Cyngor Ysgol a’r is-fforymau. Mae’r strwythur hwn yn sicrhau bod barn disgyblion yn cael dylanwad gwirioneddol ar fywyd a datblygiad yr ysgol.

Mae arwyddair Ysgol y Moelwyn, ‘Sylfaen i’r Dyfodol mewn Awyrgylch Gartrefol’, yn adlewyrchu y weledigaeth o greu cymuned ysgol gynhwysol, gefnogol a chroesawgar. Mewn amgylchedd lle mae pob unigolyn yn teimlo’n ddiogel ac yn cael ei werthfawrogi, mae’r ysgol yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer llwyddiant, llesiant a chyflawniad yn y dyfodol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?

Mae gweithredu egwyddorion ‘Ffordd Ffestiniog’ a’r strategaeth ‘Llwybrau Ffordd Ffestiniog’ wedi cryfhau darpariaeth gynhwysol yr ysgol, gan sicrhau bod disgyblion yn derbyn cefnogaeth wedi’i theilwra i’w hanghenion unigol. Mae’r ddarpariaeth wedi galluogi’r ysgol i ymateb yn effeithiol i anghenion llesiant, ADY a chynhwysiant, gan arwain at well ymgysylltiad, mwy o hyder a gwell gallu i reoli ymddygiad.

Mae’r ffocws ar ymddygiad cadarnhaol a dulliau adferol wedi creu diwylliant ysgol parchus a chefnogol. Mae data’r ysgol yn dangos effaith y gwaith hwn, gyda gostyngiad yn nifer y disgyblion a gafodd waharddiadau dros dro a chynnydd mewn presenoldeb.

Mae’r cyfleoedd i ddisgyblion gyfrannu at yr ysgol a’r gymuned wedi datblygu eu medrau cyfathrebu, cydweithio, arweinyddiaeth a’u hymdeimlad o gyfrifoldeb cymdeithasol. Mae trefniadau llais y dysgwr wedi sicrhau bod barnau disgyblion yn cael eu gwerthfawrogi ac yn dylanwadu ar ddatblygiad yr ysgol.

Yn gyffredinol, mae’r gwaith hwn wedi cyfrannu at ddatblygu dysgwyr hyderus, gwydn a chyfrifol sy’n teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn barod i symud ymlaen i’w cam nesaf mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?

Mae’r ysgol wedi cael y cyfle i rannu eu harferion effeithiol gydag ysgolion y sir ac wedi cefnogi ysgolion Cynghrair ‘Môr a Mynydd’ i ddatblygu a chryfhau eu darpariaeth ar gyfer Llais y Dysgwr.