Darparu amgylchedd dysgu maethgar i gefnogi disgyblion ag anghenion emosiynol, cymdeithasol ac addysgiadol cymhleth - Estyn

Darparu amgylchedd dysgu maethgar i gefnogi disgyblion ag anghenion emosiynol, cymdeithasol ac addysgiadol cymhleth

Ciplun

Mae staff wedi datblygu darpariaeth faeth hynod effeithiol sy’n helpu disgyblion ag anghenion emosiynol, cymdeithasol ac addysgiadol cymhleth i gael y cymorth a’r gofal sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Mae dosbarthiadau maeth pwrpasol yn darparu amgylchedd tawel, diogel a chefnogol gyda chyfleusterau synhwyraidd ac adnoddau arbenigol sy’n ymateb yn werthfawr i anghenion unigol y disgyblion. Yn ogystal, mae arweinwyr yn buddsoddi’n fwriadus mewn dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i’r staff sy’n datblygu eu harbenigedd i ddeall ac ymateb yn effeithiol i ystod eang o anghenion dwys a chymhleth disgyblion.Mae’r ddarpariaeth gydlynol hon yn galluogi staff i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a chefnogol â’r disgyblion, gan greu amgylchedd lle maent yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn barod i ddysgu. Mae’r berthynas gref hon rhwng staff a disgyblion yn cyfrannu’n sylweddol at gryfhau lles emosiynol, hyder, gwydnwch a medrau cyfathrebu’r disgyblion, ynghyd â’u hymgysylltiad â dysgu.