Darpariaeth i gefnogi lles disgyblion - Estyn

Darpariaeth i gefnogi lles disgyblion

Ciplun

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer cefnogi anghenion lles y disgyblion yn gryfder. Mae staff yn darparu gofal ac amrywiaeth o ddarpariaethau gwerthfawr sydd yn cefnogi’r disgyblion i fwynhau’r ysgol a gwneud cynnydd da yn eu medrau personol a chymdeithasol ynghyd â’u medrau dysgu. Mae darpariaeth gartrefol y ‘Cwtsh’ yn cynnig cefnogaeth ddyddiol i ddisgyblion gyda’u lles ac iechyd emosiynol. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn meithrin hunan ddisgyblaeth ac agweddau cadarnhaol tuag at eu dysgu.