Darpariaeth hynod effeithiol ar gyfer disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn arwain at ddeilliannau cadarnhaol i bron bob disgybl. - Estyn

Darpariaeth hynod effeithiol ar gyfer disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn arwain at ddeilliannau cadarnhaol i bron bob disgybl.

Ciplun

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn gryfder amlwg. Mae’r ddarpariaeth uned cyfeirio disgyblion yn cynnig amgylchedd meithringar, cymorth therapiwtig cryf a disgwyliadau uchel sy’n llwyddo i ailennyn diddordeb disgyblion mewn dysgu. Mae hyn yn cynnwys disgyblion sy’n cael gwasanaethau addysgu ac sy’n manteisio ar gwricwlwm llawn. O ganlyniad, mae bron bob disgybl yn ennill cymwysterau ac yn symud ymlaen i gyrchfannau ôl-16 ystyrlon.