Darpariaeth effeithiol ar gyfer disgyblion o deuluoedd y lluoedd arfog a’u teuluoedd.
Ciplun
Un o nodweddion nodedig yr ysgol yw’r ddarpariaeth i gefnogi disgyblion o deuluoedd y lluoedd arfog. Mae clwb ‘Little Troopers’ yn rhoi cyfle i ddisgyblion o’r teuluoedd hyn fynegi eu profiadau a’u hemosiynau wrth iddynt symud drwy’r ysgol, gan sicrhau bod lles a hunan-barch y disgyblion hyn yn flaenoriaeth uchel. Mae arweinwyr yn darparu ystod o weithgareddau ystyrlon yn yr ysgol i sicrhau bod disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Er enghraifft, yn ystod Diwrnod Hwyl y Lluoedd Arfog, gwahoddir teuluoedd y lluoedd arfog a’u plant o’r ardal leol i gymryd rhan mewn diwrnod o weithgareddau hwyliog, lle gallant rannu eu teimladau â phlant a theuluoedd eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.