Cysylltiadau cryf gyda’r gymuned leol sy’n elwa bob disgybl - Estyn

Cysylltiadau cryf gyda’r gymuned leol sy’n elwa bob disgybl

Ciplun

Mae’r ysgol wedi sefydlu cysylltiadau cryf a gwerthfawr gyda’i chymuned leol. Mae hi’n ganolbwynt i’r pentref ac mae’r holl staff yn sicrhau bod y disgyblion yn chwarae rhan bwysig ynddi. Maent yn elwa’n fawr o gymryd rhan yn rheolaidd mewn gwasanaethau yn yr eglwys, perfformio i’r henoed neu ganu carolau o gwmpas y goeden Nadolig. Mae diwrnod mabolgampau’r ysgol yn uchafbwynt y flwyddyn wrth iddynt gynnal y cystadlu yn yr hwyr er mwyn i cymaint o drigolion yr ardal fynychu â phosib. Mae’r staff wedi creu cysylltiad buddiol gyda fferm gyfagos sy’n dysgu’r disgyblion am fywyd amaethyddol cefn gwlad. Mae’r staff yn gwahodd gwirfoddolwyr i’r ysgol yn flynyddol i gynorthwyo gyda cynnal a chadw yr adeilad a’r tir. Mae hyn i gyd yn hybu medrau cymdeithasol a pherfformio disgyblion, yng nghyd a’u hunanhyder ac yn sicrhau eu bod yn teimlo perthynas cryf gyda’u cymuned a’u milltir sgwâr.