Cynorthwyo ysgolion i reoli cyllidebau’n effeithiol - Estyn

Cynorthwyo ysgolion i reoli cyllidebau’n effeithiol

Ciplun

Mae’r tîm cyllid addysg yn gweithio’n systematig gyda phob ysgol gynradd a rhai ysgolion uwchradd i gefnogi’r gwaith o lunio a rheoli eu cyllidebau fel rhan o gytundeb lefel gwasanaeth. Mae gwaith y tîm hwn yn gryf, ac mae arweinwyr ysgolion yn gwerthfawrogi’r her a’r cymorth effeithiol a pharhaus a ddarperir iddynt mewn perthynas â gwargedion uchel a diffygion posibl. Mae’r tîm yn defnyddio data cymharol wrth weithio gydag ysgolion i’w helpu i reoli eu sefyllfa ariannol a, lle bo’n berthnasol, yn manteisio ar wybodaeth a phrofiad gwerthfawr ar draws y gwasanaeth addysg ac yn ehangach ar draws yr awdurdod, gan gynnwys cydweithwyr ym maes adnoddau dynol.

Mae’r tîm cyllid addysg yn gweithio’n ddwys gydag ysgolion i fynd i’r afael â chyllidebau a allai fod mewn diffyg. Pan fydd ysgolion yn gwneud cais am ddiffyg trwyddedig, dim ond os bydd swyddogion yn asesu bod y cynllun adfer diffyg cysylltiedig yn briodol ac yn gyraeddadwy y caiff ei awdurdodi. Ar gyfer yr ysgolion hyn, mae’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o’r corff llywodraethol fynychu sesiwn hyfforddi gyda swyddogion i amlinellu goblygiadau bod mewn diffyg. Mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd ag ysgolion i fonitro cynnydd yn erbyn cynlluniau adfer diffyg. Daeth pum ysgol â’r flwyddyn ariannol ddiwethaf i ben gyda diffyg, a dim ond un ysgol nad oedd yn gallu pennu cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Mae’r buddsoddiad yng ngallu’r tîm cyllid addysg a gwaith diwyd y swyddogion yn golygu bod y darlun yn fwy cadarnhaol nag yr oedd ychydig flynyddoedd yn ôl.