Cynnwys disgyblion wrth benderfynu sut a beth maent yn ei ddysgu
Agwedd arbennig o effeithiol o’r addysgu yw’r ffordd y mae staff yn galluogi disgyblion i wneud penderfyniadau am sut a beth maent yn ei ddysgu. Mae’r cwricwlwm yn cefnogi gallu disgyblion i ddatblygu eu trywyddau ymholi eu hunain. Mae prosesau wedi’u sefydlu’n gadarn sy’n galluogi disgyblion i bennu agweddau sydd o ddiddordeb iddynt, ac maent yn penderfynu sut y byddant yn ymchwilio i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddysgu rhagor. Mae disgyblion iau yn dysgu gofyn ystod o gwestiynau’n hyderus, ac mae disgyblion hŷn yn dod yn fedrus wrth chwilio am wybodaeth a’i threfnu a chyfiawnhau eu safbwyntiau, gan barchu safbwyntiau pobl eraill. Mae’r strategaethau hyn i gynnwys disgyblion yn eu dysgu eu hunain yn cefnogi ymgysylltiad a lles disgyblion yn effeithiol iawn.