Cynllunio ar gyfer datblygu medrau digidol disgyblion yn raddol  - Estyn

Cynllunio ar gyfer datblygu medrau digidol disgyblion yn raddol 

Arfer effeithiol

The Maelor School

Disgybl mewn ystafell ddosbarth yn defnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith, gyda disgybl arall gerllaw ac oedolyn yn sefyll wrth ymyl yn pwyntio at y sgrin.

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Maelor yn ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg 11-18. Mae’r ysgol wedi’i lleoli ym mhentref Llannerch Banna yn ne ddwyrain Wrecsam. Mae 777 o ddisgyblion ar y gofrestr, yn cynnwys 103 yn y chweched dosbarth. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 10.7%. Canran y disgyblion sydd ag ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) yw 6%.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Maelor yn rhoi pwyslais cryf ar baratoi disgyblion ar gyfer bywyd mewn byd sy’n gynyddol ddigidol. Ar ôl cyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD), cydnabu arweinwyr yr ysgol fod angen sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn datblygu medrau digidol mewn ffordd raddol ac ystyrlon. Amlygodd archwiliad cychwynnol, er bod rhai adrannau’n defnyddio offer digidol yn gywir, fod darpariaeth weithiau’n anghyson. Rhoddodd yr ysgol strategaeth ysgol gyfan ar waith i ymgorffori cymhwysedd digidol yn systematig, trwy gyd-destunau dilys. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r Cydlynydd Cymhwysedd Digidol yn cefnogi pob adran i greu dogfennau cynllunio ac ysgolion dilyniant, gan roi manylion am ddisgwyliadau o ran medrau ym mhob cam. Mae hyn yn sicrhau bod dysgu digidol yn bwrpasol, yn gronnol ac yn briodol i oedran. Cefnogir pob maes pwnc i ddatblygu cyfleoedd digidol sy’n berthnasol ac yn ddilys i’r dysgu sy’n digwydd o fewn y pwnc. 

Mae enghreifftiau’n cynnwys: 

  • y dyniaethau – creu a dehongli ffeithluniau i gyflwyno a dadansoddi data hanesyddol 
  • gwyddoniaeth – defnyddio offer dadansoddi data a thaenlenni i fodelu canlyniadau a thueddiadau data arbrofol 
  • y celfyddydau mynegiannol – golygu fideos, cynhyrchu cerddoriaeth, a dylunio graffeg ddigidol i wella deilliannau creadigol 
  • mathemateg a rhifedd – datblygu medrau codio a rhesymu rhesymegol i gefnogi datrys problemau, adnabod patrymau, a thrin data mewn cyd-destunau mathemategol. 

Mae gan bob adran Hyrwyddwr Digidol sy’n cydweithio â’i gilydd, a gyda’r Cydlynydd Digidol. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd sy’n darparu cyfleoedd i gynllunio, datblygu a mireinio cyfleoedd digidol a rhannu arfer dda. Yn ychwanegol, mae Hyrwyddwyr Digidol yn darparu cymorth digidol i gydweithwyr adrannol ac mae arweinwyr wedi darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol buddiol ar gyfer pob un o’r staff. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau hyfforddi sydd wedi eu teilwra i ffocws digidol pob pwnc, sesiynau galw i mewn ‘cymorthfeydd digidol’, a safoni gwaith disgyblion i sicrhau dealltwriaeth gadarn o safonau a chysondeb ar draws pynciau. 

I sicrhau mynediad a thegwch, mae’r ysgol yn defnyddio’i chyllid o Raglen Technoleg Addysg Hwb i brynu Chromebooks ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh). Mae’r buddsoddiad hwn yn sicrhau bod gan bob adran yr offer sydd ei angen i gyflwyno dysgu digidol o ansawdd uchel. 

I ddathlu a rhannu deilliannau’r gwaith hwn, mae Hyrwyddwyr Digidol wedi datblygu portffolios enghreifftiol a Phortffolio Digidol ysgol gyfan. Mae’r portffolio hwn yn gwasanaethu fel adnodd ar gyfer athrawon, yn blatfform ar gyfer cydnabod cyflawniad disgyblion, ac yn offeryn i ddangos ymrwymiad yr ysgol i ddatblygu cymhwysedd digidol. 

Caiff tasgau digidol eu gwerthuso’n rheolaidd i sicrhau bod tasgau’n briodol. O ganlyniad, mae Hyrwyddwyr Digidol yn gwneud mireiniadau rheolaidd i’w gwaith sydd wedi golygu bod ysgolion dilyniant yn fwy eglur, ac maent wedi datblygu rhestrau gwirio medrau bach i gynorthwyo disgyblion i olrhain eu cynnydd eu hunain. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r fenter wedi arwain at welliannau mesuradwy yng nghymhwysedd digidol disgyblion a mwy o gysondeb ar draws adrannau. Mae tasgau digidol bellach wedi eu hymgorffori ac yn bwrpasol. Er enghraifft, mae prosiectau ffeithluniau Blwyddyn 9 a phrosiectau amlgyfrwng yn dangos creadigrwydd, cywirdeb a meddwl gwerthusol gwell. Mae cyfran disgyblion Blwyddyn 9 sy’n cyflawni disgrifwyr FfCD lefel uwch fel ‘gwerthuso a mireinio cynnwys digidol’ yn cynyddu. Yn ychwanegol, mae adborth llais y disgybl yn dangos hyder ac ymreolaeth gynyddol. 

Mae arolygon staff yn dangos bod hyder athrawon mewn ymgorffori dysgu digidol yn cynyddu’n nodedig, ar ôl cymorth targedig a chydweithio â Hyrwyddwyr Digidol.   

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae dulliau’r ysgol yn sicrhau bod arfer effeithiol yn cael ei hymgorffori’n dda ar draws yr ysgol.  Mae Arweinydd Cymhwysedd Digidol yr ysgol wedi rhannu’r gwaith hwn gydag arweinwyr ysgol eraill ac wedi cael ei arddangos yng nghyfarfodydd Rhwydwaith yr Awdurdod Lleol.