gasglu data trylwyr ar leoliadau canolfannau adnodd sydd ynghlwm wrth ysgolion a’r grwpiau o ddisgyblion y maent yn gweithio gyda nhw;
parhau i ymestyn y system integredig i blant fel y gellir rhannu gwybodaeth ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru; ac
annog AALlau i ddatblygu polisïau derbyn ac ymadael cynhwysfawr gyda meini prawf clir ar gyfer canolfannau adnodd.
Dylai awdurdodau lleol:
gynnwys partneriaid allanol yn llawn wrth gynllunio darpariaeth;
casglu a dadansoddi data am ddisgyblion y diffiniwyd mai anawsterau dysgu cymedrol yw eu prif angen, a grwpiau eraill o ddisgyblion ag anghenion penodol, yn eu canolfannau adnodd i lywio cynllunio strategol; ac
adolygu grwpiau ac anghenion disgyblion mewn canolfannau adnodd yn rheolaidd a gwneud newidiadau priodol lle bydd angen.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.