Cymorth therapiwtig
Ciplun
Mae disgyblion yn gwerthfawrogi eu profiadau yn yr UCD, gyda bron pob un ohonynt yn dangos parch gwirioneddol at staff, eu cyfoedion a’u hamgylchedd. Mae llawer o ddisgyblion yn disgrifio’r UCD fel lle croesawgar lle maent yn teimlo’n ddiogel ac yn cael gofal. Mae’r dull therapiwtig integredig sydd wedi’i sefydlu’n gadarn ar draws yr UCD wedi arwain at welliannau sylweddol yn lles, presenoldeb a gallu disgyblion i reoli eu hemosiynau. Yn ogystal, yn ôl rhieni a gofalwyr, mae wedi cryfhau perthnasoedd teuluol. Mae rhieni a gofalwyr yn gwerthfawrogi cymorth yr UCD yn fawr, gydag ychydig iawn ohonynt yn priodoli gallu eu plant i oresgyn heriau bywyd difrifol i’r cymorth hwn.