Cymorth hynod effeithiol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) - Estyn

Cymorth hynod effeithiol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Ciplun

Mae arweinwyr wedi datblygu trefniadau cadarn i nodi a chefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae staff yn monitro ac yn olrhain cynnydd disgyblion yn drylwyr o’u mannau cychwyn unigol ac yn darparu ystod gynhwysfawr o raglenni cymorth sy’n ymateb yn dda i anghenion disgyblion. Mae gan bob aelod o staff ddealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion disgyblion unigol, ac mae hyn yn eu galluogi i gefnogi’r disgyblion hyn yn gyson effeithiol. Mae’r ysgol wedi datblygu darpariaeth arbenigol fewnol sy’n darparu amgylchedd diogel a meithringar i ddisgyblion, wedi’i deilwra i’w hanghenion cymhleth.