Cyfleoedd pwrpasol i ddisgyblion gymhwyso eu medrau’n annibynnol a chymryd perchnogaeth o’u dysgu.
Ciplun
Mae’r cwricwlwm yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion arwain agweddau ar eu dysgu. Maent yn cynllunio prosiectau dysgu’n annibynnol i archwilio eu diddordebau eu hunain neu ddatblygu eu dysgu presennol. Trwy’r cyfleoedd hyn, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cymhwyso ystod eang o fedrau’n effeithiol ac yn datblygu eu medrau meddwl a datrys problemau yn dda.