Cyfarfodydd amlasiantaethol i ddod o hyd i atebion a chefnogi teuluoedd
Mae’r ysgol yn cydweithio’n eithriadol o dda ag ystod o weithwyr proffesiynol i wella’r cymorth i ddisgyblion a’u teuluoedd. Mae cyfarfodydd Cylch Datrysiadau Amlasiantaethol (MASC) yn galluogi ymyriadau amserol a chydlynol ac yn gwella mynediad at wasanaethau allanol. Mae athrawon sy’n mynychu’r cyfarfodydd hyn yn ymrwymo i weithredu ar gyngor yn brydlon iawn ac, o ganlyniad, mae achosion o ddadreoleiddio emosiynol ymhlith disgyblion ac ymddygiad heriol wedi lleihau’n sylweddol. Mae arweinwyr yr ysgol wedi sefydlu a chynnal cymorth hynod effeithiol sy’n canolbwyntio ar deuluoedd trwy gyfathrebu clir, arweiniad ymarferol a phartneriaethau cryf â rhieni a gofalwyr. Mae grŵp rhieni wythnosol Ysgol Greenfield, GRWP, sy’n cyfarfod ar ddydd Mercher, yn hynod fuddiol wrth gefnogi rhieni i ddeall y dulliau cyfathrebu neu’r strategaethau ymddygiad y gallant eu defnyddio gyda’u plentyn gartref. Mae’r dulliau hyn yn nodweddion arbennig o gryf yng ngwaith yr ysgol ac yn cyfrannu’n ystyrlon at ddeilliannau cadarnhaol i ddisgyblion a’u teuluoedd.