Cydweithio - Estyn

Cydweithio

Ciplun

Mae ymrwymiad cryf yr ysgol i ymgysylltiad disgyblion yn amlwg yn ei dull integredig o ddarparu cymorth therapiwtig. Mae’r therapyddion llawn amser ar y safle yn cydweithio’n effeithiol â staff addysgu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o anghenion disgyblion, modelu strategaethau effeithiol a gwella lles. Mae disgyblion a staff yn elwa ar wasanaethau seicoleg personol a seicotherapi, ac mae rhaglen dysgu proffesiynol, gan gynnwys hyfforddiant ar drawma ac awtistiaeth, yn cryfhau arbenigedd staff. Mae’r tîm clinigol yn darparu cymorth gwerthfawr i staff a theuluoedd, gan sicrhau bod anghenion unigol disgyblion yn cael eu diwallu. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf tuag at eu targedau dysgu.