Cydweithio effeithiol â’r gymuned i gyfoethogi’r ddarpariaeth a chefnogi teuluoedd
Mae arweinwyr yn meithrin partneriaethau cryf â rhieni ac aelodau’r gymuned sy’n cyfoethogi profiadau dysgu’r disgyblion ac yn cefnogi lles teuluoedd yn llwyddiannus. Maent yn cynllunio ystod o weithgareddau cymunedol poblogaidd sy’n annog teuluoedd i ymgysylltu’n rheolaidd â bywyd yr ysgol. Mae digwyddiadau fel nosweithiau bingo a chyri yn dod â theuluoedd, staff ac aelodau o’r gymuned ynghyd mewn awyrgylch croesawgar sy’n cryfhau’r berthynas rhwng yr ysgol a’i chymuned.Mae’r ysgol hefyd yn addasu digwyddiadau fel nosweithiau rhieni yn greadigol er mwyn annog mwy o deuluoedd i fynychu. Mewn awyrgylch anffurfiol, mae rhieni’n cael cyfleoedd i weld gwaith eu plant, ymweld â’r ysgol a chael arweiniad ymarferol ar sut i gefnogi dysgu eu plant, gan gynnwys sut i gefnogi eu medrau darllen gartref.Yn ogystal, mae arweinwyr yn ymateb yn sensitif i anghenion y gymuned drwy sefydlu ‘Siop Siafins’, sy’n darparu bwyd a nwyddau hanfodol i deuluoedd. Mae’r ddarpariaeth hon, ynghyd â’r gweithgareddau cymunedol, yn meithrin ymdeimlad cryf o ymddiriedaeth a pherthyn rhwng yr ysgol, ei theuluoedd a’r gymuned ehangach, gan gryfhau ymgysylltiad y rhieni ag addysg eu plant.