Cydweithio ar gyfer gwelliant parhaus
Ciplun
Mae ffocws hynod effeithiol ar gydweithio cryf a pharhaus yn ganolog i waith yr ysgol. Mae staff yn cydweithio’n agos i wella addysgu, profiadau dysgu a deilliannau pob disgybl yn llwyddiannus. Mae arweinwyr yn darparu strwythur, amser ac ymddiriedaeth i alluogi staff i gydweithio a rhoi dulliau ar brawf. Mae dull cydweithredol yr ysgol o wella, sy’n edrych tuag allan, yn cael effaith sylweddol ar ddisgyblion a staff yr ysgol, yn ogystal ag ar ymarferwyr y tu hwnt iddi. Mae staff yn gweithio’n effeithiol gydag ysgolion eraill a phartneriaid i rannu arbenigedd, mireinio arfer a chryfhau’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion agored i niwed.