‘Cwricwlwm Ymddygiad’ Y Pant - Estyn

‘Cwricwlwm Ymddygiad’ Y Pant

Ciplun

“Mae gan yr ysgol ddull cynhwysfawr o nodi a chefnogi anghenion disgyblion, gan weithio’n agos gyda rhieni ac asiantaethau allanol lle bo’n briodol. Defnyddir data a gesglir o arolygon lles a chofnodion ymddygiad yn strategol i fonitro disgyblion a nodi’r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Mae’r ysgol wedi datblygu ei chwricwlwm ymddygiad ei hun, sy’n addysgu disgyblion am oddefgarwch, parch ac ymddygiad cadarnhaol. Mae’r ‘cwricwlwm ymddygiad’ hwn yn llwyddo i ddatblygu diwylliant o barch rhwng staff a disgyblion, ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ymddygiad disgyblion mewn gwersi ac o amgylch yr ysgol.

Mae’r ysgol yn defnyddio data mewn ffordd ymatebol i addasu ei darpariaeth i ddiwallu anghenion disgyblion. Mae’r ‘cwricwlwm ymddygiad’ wedi’i ategu gan bolisi a gyflwynwyd yn ddiweddar gan yr ysgol i beidio â chaniatáu i ddisgyblion ddefnyddio eu ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol mwyach. Mae hyn wedi helpu i wella ymddygiad, lleihau achosion o fwlio a gwella rhyngweithio cymdeithasol disgyblion yn ystod amser cinio ac amseroedd egwyl.”