Cwricwlwm sydd wedi’i seilio ar brofiadau dysgu dilys, ymarferol ac ystyrlon - Estyn

Cwricwlwm sydd wedi’i seilio ar brofiadau dysgu dilys, ymarferol ac ystyrlon

Ciplun

Mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd dysgu helaeth yn lleol ac yn ehangach sy’n ysbrydoli disgyblion ac yn cefnogi eu dyheadau. Mae staff yn gwerthfawrogi cefndiroedd y disgyblion ac yn gwneud defnydd effeithiol o’r wybodaeth yma, er enghraifft y cysylltiadau cryf â’r gymuned amaethyddol, i gyfoethogi eu dysgu. Trwy ymweliadau sydd wedi’u cynllunio’n bwrpasol a defnydd effeithiol o adnoddau, mae disgyblion yn datblygu dealltwriaeth gadarn o’u hardal leol, eu hunaniaeth Gymreig a’r byd ehangach. O ganlyniad, mae eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol wedi’i gwreiddio’n llwyddiannus ar draws y cwricwlwm. Mae’r ysgol hefyd yn darparu ystod ddiddorol o brofiadau creadigol ac artistig yn fwriadus, sy’n aml yn cynnwys y gymuned leol, ac sy’n ymestyn a chyfoethogi dysgu’r disgyblion ymhellach.