Cryfhau cynnydd ac ymgysylltiad disgyblion mewn mathemateg trwy grwpiau hyblyg a chymorth wedi’i dargedu. - Estyn

Cryfhau cynnydd ac ymgysylltiad disgyblion mewn mathemateg trwy grwpiau hyblyg a chymorth wedi’i dargedu.

Ciplun

Mae staff wedi cydweithio i ddatblygu Knelston Nests, sef dull personol o addysgu mathemateg sy’n seiliedig ar grwpiau hyblyg a chymorth wedi’i dargedu. Maent yn defnyddio asesiadau’n dda i gynllunio lefelau priodol o her sy’n diwallu anghenion disgyblion yn effeithiol. Mae cydweithio cryf a dysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer yr holl staff yn cefnogi dull cyson ar draws yr ysgol. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf, yn ymateb yn ystyriol i adborth ac yn dangos agweddau cadarnhaol wrth fynd i’r afael â heriau.