Cryfhau cydweithio trwy weithio mewn clwstwr - Estyn

Cryfhau cydweithio trwy weithio mewn clwstwr

Ciplun

Mae arweinwyr, staff, llywodraethwyr a disgyblion yn elwa ar gydweithio cryf o fewn clwstwr yr ysgol. Mae uwch arweinwyr yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr mewn ysgolion eraill i ddatblygu dulliau cyffredin o wella, tra bod llywodraethwyr yn cyfnewid syniadau’n rheolaidd i lunio ymatebion effeithiol i heriau cyffredin. Mae cyfarfodydd tymhorol yn galluogi athrawon a staff cymorth i rannu arferion a dysgu oddi wrth ei gilydd trwy drafodaethau, ymweliadau cyfatebol rhwng ysgolion ac arsylwadau. Mae disgyblion hŷn yn cyfrannu’n ystyrlon at grŵp ar draws y clwstwr sy’n canolbwyntio ar wella’r pontio i’r ysgol uwchradd. Mae’r diwylliant cydweithredol hwn wedi cryfhau dysgu proffesiynol ac wedi helpu i sicrhau bod gweithgareddau gwella yn parhau i gyd-fynd yn agos â’r nod o wella deilliannau a lles disgyblion.