Ciplun - Rôl a chyfraniad y staff a’r llywodraethwyr yn y broses o hunan wella - Estyn

Ciplun – Rôl a chyfraniad y staff a’r llywodraethwyr yn y broses o hunan wella

Ciplun

Mae ystod glir o weithgareddau hunanwerthuso yn cael eu defnyddio gan yr ysgol yn dymhorol, gan gynnwys teithiau dysgu, craffu ar waith a holi disgyblion sy’n cael effaith cadarnhaol iawn ar allu’r staff a’r llywodraethwyr i adnabod cryfderau’r ysgol a’r holl feysydd sydd angen eu gwella. Yn dilyn y gweithgareddau monitro, mae’r staff a’r llywodraethwyr yn cyfarfod i arfarnu’r hyn maent wedi arsylwi. Mae’r arfarniadau’n canolbwyntio’n gadarn ar effaith y ddarpariaeth ar safonau disgyblion, er enghraifft yr angen i wella medrau darllen y disgyblion. Mae arweinwyr yn darparu hyfforddiant i’r staff er mwyn mynd i’r afael a’r agweddau sydd angen sylw. Yna, maent yn mesur cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yn y cyfnod monitro nesaf. O ganlyniad, mae’r staff a’r llywodraethwyr yn medru gweld effaith y gwelliannau yn y ddarpariaeth ar ddeilliannau’r disgyblion yn fuan, cyn symud ymlaen i weithredu pellach.