CIPLUN: Meithrin cysylltiadau cymunedol cryf a chlos i gefnogi lles a dysgu disgyblion - Estyn

CIPLUN: Meithrin cysylltiadau cymunedol cryf a chlos i gefnogi lles a dysgu disgyblion

Ciplun

Un o rinweddau cryfaf yr ysgol yw’r modd mae arweinwyr a staff wedi sefydlu perthynas hynod gadarn a chynhyrchiol â rhieni a’r gymuned ehangach. Mae’r ysgol yn cynnig cyfleoedd rheolaidd i rieni gymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol ac i gefnogi dysgu eu plant. Mae digwyddiadau fel ‘Cawl a Chân’ a ‘Noson Rhyngwladol’ yn hybu ymdeimlad cryf o berthyn ac yn dathlu amrywiaeth ddiwylliannol y gymuned leol yn gelfydd.Mae arweinwyr a staff yn manteisio’n grefftus ar fedrau ac arbenigeddau rhieni a phartneriaid cymunedol mewn cyd-destunau dysgu go iawn sy’n ennyn diddordeb a chodi dyheadau disgyblion. Mae’r gymdeithas rieni ac athrawon yn weithgar a blaengar wrth godi arian i gefnogi prosiectau, fel trawsnewid tir segur ar safle’r ysgol i fod yn ofod dysgu awyr agored deniadol i gefnogi lles a medrau disgyblion. Trwy bartneriaethau cryf â’r Brifysgol leol, mae’r ysgol yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i rieni ddysgu Cymraeg, gan gryfhau defnydd yr iaith yn y cartref. Mae cysylltiadau effeithiol a rheolaidd â sefydliadau lleol fel y Llyfrgell Genedlaethol a’r ysgolion cyfagos yn cyfoethogi profiadau dysgu’r disgyblion ac yn cryfhau eu cysylltiad â’r gymuned leol yn hynod gadarn.