Ciplun- Gwella cyfranogiad y dysgwyr ym mywyd a gwaith yr ysgol trwy weithgareddau hyrwyddo lles
Mae ystod gynhwysfawr o weithgareddau hyrwyddo lles yn cael eu defnyddio gan y staff yn wythnosol, gan gynnwys sesiynau ‘Llun Lles’, Ioga ac amseroedd egwyl ‘sensori’. Mae gan y staff ddealltwriaeth gadarn o anghenion y disgyblion ac maent yn barod i wrando ac ymateb iddynt yn brydlon.Yn ddiweddar, mae’r disgyblion wedi bod yn weithgar wrth greu’r ‘Caban Clyd’ ar iard chwarae’r ysgol, lle gall disgyblion fynd i ymdawelu. O ganlyniad i’w gwaith, mae’r holl ddisgyblion yn cael defnydd cyson o’r caban pan fo’r angen, sy’n cynnwys ystod dda o adnoddau synhwyraidd fel cerddoriaeth, goleuadau a gweithgareddau meddylgarwch.Mae’r amryw ddulliau hybu lles disgyblion wedi cael effaith cadarnhaol ar agweddau’r disgyblion tuag at fywyd a gwaith yr ysgol. Er enghraifft, mae presenoldeb bron bob disgybl wedi gwella dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r disgyblion yn ymgymryd â’u gweithgareddau dysgu yn frwdfrydig, yn cydweithio’n hapus gyda’i gilydd o fewn yr amgylchedd dysgu ac wrth chwarae yn ystod amseroedd egwyl. Mae ymddygiad bron bob disgybl yn arbennig o dda.