Ciplun: Defnyddio technoleg i ddatblygu medrau siarad disgyblion - Estyn

Ciplun: Defnyddio technoleg i ddatblygu medrau siarad disgyblion

Ciplun

Mae staff yn gwneud defnydd pwrpasol a dychmygus o dechnoleg i ddatblygu medrau llafaredd disgyblion o oedran ifanc. Mae’r disgyblion ieuengaf yn recordio clipiau digidol yn annibynnol i gofnodi eu hymatebion i weithgareddau ymarferol, ac yn ychwanegu troslais ac anodiadau i egluro eu dysgu. Wrth greu modelau o’r sgerbwd er enghraifft, maent yn defnyddio geirfa newydd a heriol fel ‘hwmerws’ a ‘penglog’, gan gyfleu gwybodaeth yn glir ac hyderus. Wrth symud drwy’r ysgol, mae disgyblion yn adeiladu ar y profiadau hyn yn fedrus. Mae’r disgyblion hŷn yn ymgymryd â rolau fel newyddiadurwyr, gan recordio cyfweliadau ac adroddiadau byr sy’n defnyddio iaith fanwl gywir. Maent hefyd yn defnyddio technoleg sgrin werdd i greu teithiau rhithiol, megis ymweliad â Yr Ysgwrn, ac yn cyflwyno gwybodaeth sy’n ystyried eu cynulleidfa’n fedrus. Trwy werthuso recordiadau eu hunain, maent yn mireinio eu medrau llafar ac yn gwneud gwelliannau ystyrlon i’w gwaith. O ganlyniad i’r gyfres o brofiadau estynedig hyn, mae disgyblion yn cyfathrebu’n hyderus, yn defnyddio geirfa gyfoethog ac yn cydweithio’n effeithiol i gyflwyno syniadau’n glir ac yn bwrpasol.