Ciplun – darparu cwricwlwm sy’n ystyried y cyd-destun lleol yn effeithiol
Ciplun
Mae’r ddarpariaeth yn cynnig cyfleoedd euraidd i ddisgyblion ddylanwadu’n bwrpasol ar eu dysgu. Maent yn awgrymu gweithgareddau cyffrous a dychmygus yr hoffent eu cwblhau er mwyn ateb y cwestiwn ‘sbardun’ sy’n cael ei osod ar gychwyn bob uned o waith. Er enghraifft, mae disgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn ystyried ‘Sut allwn adeiladu cymuned?’ cyn mynd ati i gynllunio ‘penllanw’ yr uned sef ymweliad â’r ysbyty lleol i chwarae gemau a chadw cwmni i’r cleifion hynaf. O ganlyniad, mae’r disgyblion yn datblygu gwerthoedd pwysig fel empathi ynghyd â synnwyr o falchder a chariad tuag at eu cynefin.