Ciplun: Cyfoethogi'r ddarpariaeth drochi drwy ddefnyddio cyd-destunau bywyd go iawn ystyrlon - Estyn

Ciplun: Cyfoethogi’r ddarpariaeth drochi drwy ddefnyddio cyd-destunau bywyd go iawn ystyrlon

Ciplun

Mae staff yn defnyddio fframwaith patrymau iaith craidd fel sail i’r ddarpariaeth drochi ac yn cynllunio cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion gymhwyso’r patrymau mewn cyd-destunau bywyd go iawn.Maent yn cydweithio â phartneriaid lleol i greu profiadau dilys sy’n rhoi pwrpas clir i ddefnyddio’r Gymraeg. Er enghraifft, mae disgyblion yn ymweld â’r ardal natur yn yr ysgol uwchradd i weld y geifr cyn cynllunio posteri a chreu hysbysebion digidol i’w gwerthu. Yn ogystal, mae ymweliadau â’r gymuned a busnesau lleol yn rhoi cyfleoedd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn annibynnol, er enghraifft wrth archebu mewn caffi.O ganlyniad, mae disgyblion yn gweld gwerth y Gymraeg fel iaith gyfathrebu bob dydd. Maent yn datblygu hyder cynyddol i ddefnyddio’r patrymau iaith mewn sefyllfaoedd newydd ac yn trosglwyddo eu dysgu yn fwy effeithiol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.