CIPLUN: Cefnogi datblygiad disyglbion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), bregus a’r rhai hynny sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) - Estyn

CIPLUN: Cefnogi datblygiad disyglbion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), bregus a’r rhai hynny sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY)

Ciplun

Mae’r staff addysgu yn meddu ar ddealltwriaeth fanwl o anghenion pob disgybl, gan gynnwys y rhai ag ADY. Maent yn defnyddio ystod eang o wybodaeth gynhwysfawr i gynllunio profiadau dysgu sydd wedi eu teilwra’n ofalus. Mae trafodaethau proffesiynol rheolaidd ymysg staff yn cyflwyno darpariaeth gyson o ansawdd uchel. Mae timau o gynorthwywyr medrus yn arwain rhaglenni cefnogi effeithiol sy’n hyrwyddo lles a datblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion, gan gynnwys y rhai sy’n dysgu SIY yn hynod lwyddiannus. Mae hyrwyddo lles disgyblion yn flaenoriaeth ganolog, gyda strategaethau sefydledig fel y Swyddog Cefnogi Teuluoedd ac uned faethu ‘Y Plas’, sy’n cynorthwyo disgyblion bregus a gofalwyr ifanc yn sensitif ac effeithiol. Yn ogystal, mae cynlluniau fel ‘Bwyd a Hwyl’ yn cefnogi teuluoedd dros wyliau’r ysgol, a’r ddarpariaeth drochi ieithyddol yn y ‘Pod’ yn cryfhau medrau’r disgyblion hynny sy’n dysgu SIY tra’n hybu eu hyder a’u gallu i integreiddio llwyddiannus i’r ysgol. Mae partneriaethau cryf â rhieni ac sefydliadau allanol yn cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant y ddarpariaeth. O ganlyniad, mae bron bob disgybl sy’n derbyn cymorth yn gwneud cynnydd cryf iawn.