Ciplun - Addasu’r ddarpariaeth i gwrdd ag anghenion disgyblion unigol - Estyn

Ciplun – Addasu’r ddarpariaeth i gwrdd ag anghenion disgyblion unigol

Ciplun

Un o nodweddion cryfaf yr ysgol yw’r cydweithio agos ag ystod helaeth o asiantaethau i gefnogi disgyblion, gan gynnwys y sawl o aelwydydd incwm isel, a’u teuluoedd. Mae hyn yn cynnwys cyswllt rheolaidd â’r rhieni i feithrin perthynas o ymddiriedaeth ac i adnabod yn gywir eu heriau cymdeithasol. Mae’r ysgol yn defnyddio’r wybodaeth yn fedrus i addasu’r ddarpariaeth gan sicrhau bod anghenion y disgyblion yn cael eu diwallu’n llawn. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar hunanwerth a hyder y disgyblion, eu hymdeimlad o berthyn a’u parodrwydd i ddod i’r ysgol.