Cefnogi pontio trwy gynllunio’r cwricwlwm iechyd a lles yn effeithiol
Ciplun
Mae uwch arweinwyr yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o ysgolion cynradd partner i sicrhau parhad o ran disgwyliadau’r cwricwlwm, yn ogystal â gofal bugeiliol i ddisgyblion pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd. Un o gryfderau penodol y ddarpariaeth yw bod yr ysgolion yn defnyddio rhaglen gyffredin o addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh). Mae hon wedi’i gwreiddio yn y cwricwlwm iechyd a lles ac yn atgyfnerthu gwerthoedd parch, penderfyniad a gonestrwydd. Mae’r model cwricwlwm di-dor hwn yn cefnogi lles disgyblion yn llwyddiannus, yn ogystal â meithrin eu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol, a chaiff ei gyfoethogi trwy wasanaethau, sesiynau dan arweiniad tiwtoriaid a phartneriaethau allanol.