Cefnogaeth effeithiol i hyrwyddo lles a pharodrwydd disgyblion i ddod i’r ysgol yn rheolaidd ac i fod yn barod i ddysgu. - Estyn

Cefnogaeth effeithiol i hyrwyddo lles a pharodrwydd disgyblion i ddod i’r ysgol yn rheolaidd ac i fod yn barod i ddysgu.

Ciplun

Mae disgyblion bregus yn cael cyfle i fynychu’r Hwb Hafan ar ddechrau’r dydd. Mae hon yn ystafell ddiogel a chroesawgar sy’n eu galluogi i setlo a pharatoi’n feddyliol at weithgareddau’r dydd. Yn ogystal, mae staff ar gael drwy’r dydd i gefnogi ac ail-ymgysylltu â’r disgyblion hyn i sicrhau eu bod yn hapus ac yn barod i barhau â’u dysgu.