Asesu ar gyfer dysgu effeithiol
Ciplun
Mae athrawon yn defnyddio holi pwrpasol i asesu a chefnogi dysgu disgyblion yn effeithiol wrth iddynt ddysgu. Mae disgyblion hŷn yn elwa ar strategaethau fel defnyddio delweddydd a meini prawf llwyddiant a luniwyd ar y cyd. Mae defnyddio’r strategaethau hyn yn gwella adborth trwy alluogi disgyblion i gymharu gwaith ei gilydd â’r meini prawf y cytunwyd arnynt a’u helpu i ddeall sut i wella trwy ddisgwyliadau clir ac enghreifftiau o lwyddiant. Mae hyn yn gwella eu cynnydd yn sylweddol ac yn meithrin eu datblygiad fel dysgwyr annibynnol a myfyriol.